Cymru fodern
Etholwyd llywodraeth newydd i Brydain ac mewn refferendwm yn 1997 pleidleisiodd pobl Cymru dros ddatganoli. Trawsnewidiwyd bae Caerdydd gan adeiladau trawiadol y Senedd a Chanolfan y Mileniwm.
Bu'n gyfnod anodd i'r byd amaethyddiaeth wrth i glwy traed a’r genau daro'r diwydiant yn 2001.
Un o fygythiadau mwya’r cyfnod hwn oedd terfysgaeth. Ymosodwyd ar dyrrau’r “twin towers” yn Efrog Newydd yn 2001 a targedwyd system drafnidiaeth tanddaearol Llundain ym mis Gorffennaf 2005.
Lleisiwyd pryderon cynyddol ynglŷn â chyflwr yr amgylchedd a cafodd tsunami dydd San Steffan 2004 efffaith drychinebus ar gymunedau yn Ne Nwyrain Asia gyda degau o filoedd o bobl yn cael eu lladd.











