Plaid Lafur
Yn 1994 penodwyd Tony Blair yn arweinydd ar y Blaid Lafur, a bu’n gychwyn cyfnod ‘Llafur newydd’. Sefydlwyd y Blaid Lafur yn 1900, a daeth i rym am y tro cyntaf ym Mhrydain dan arweinyddiaeth Ramsay MacDonald yn 1923-24. Mae cymoedd de Cymru wedi profi yn gadarnle traddodiadol i’r blaid; enillasant 32 allan o 36 sedd yng Nghymru yn etholiad cyffredinol 1966. Ers sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol yn 1999 y Blaid Lafur fu mewn grym am yr 8 mlynedd cyntaf. Ers etholiadau Mai 2007 mae'r Blaid Lafur wedi bod mewn llywodraeth clymbleidiol gyda Phlaid Cymru yn y Cynulliad. Cedwir llawer o archifau sy’n ymwneud a’r Blaid Lafur yng Nghymru yn yr Archif Wleidyddol yn y Llyfrgell.














