Grace Williams (1906-77)
Grace Williams oedd un o brif gyfansoddwyr clasurol Cymru. Penderfynodd ar yrfa iddi ei hun fel cyfansoddwraig wedi clywed cerddoriaeth Morfydd Owen yn Eisteddfod Genedlaethol y Barri yn 1920. Yn y Barri y cyfansoddodd ei gweithiau mwyaf nodedig, Fantasia on Welsh Nursery Tunes (1940) a Sea Sketches (1944). Roedd yn rhan o gylch o gyfansoddwyr modern Cymreig amlwg, fel Alun Hoddinott, Daniel Jones a William Mathias. Yn 1997 derbyniwyd archif Grace Williams gan y Llyfrgell.














