Bocsio
Bu de Cymru yn fagwrfa i rhai o focswyr enwocaf y byd. Credir bod bywyd caled y cymunedau glofaol hyn wedi magu cymdeithas o fechgyn ifanc caled o gorff. Bellach mae enwau fel Freddie Welsh, Tommy Farr a Joe Calzaghe yn adnabyddus drwy’r byd. Yn 1997 derbyniodd y Llyfrgell archif o lyfrau lloffion y bocsiwr Freddie Welsh.














