Gwynfor Evans (1912–2005)
Ar 21 Ebrill 2005 bu farw un o arweinwyr pwysicaf Cymru yn yr 20fed ganrif. Gydag ethol Gwynfor Evans yn Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru yn 1966 gwnaed y Blaid yn rym gwleidyddol o bwys yng Nghymru. Bu’n ffigwr allweddol yn yr ymgyrch i geisio atal boddi Cwm Tryweryn a bygythiodd ymprydio i farwolaeth dros achos y sianel Gymraeg yn 1980. Ildiodd y llywodraeth a lansiwyd S4C yn 1982.














