Senedd i Gymru
Nid rhywbeth newydd i ddiwedd yr 20fed ganrif oedd yr alwad am senedd neu ddatganoli i Gymru. Yn 1950 cychwynnwyd ‘Ymgyrch dros Senedd i Gymru’ gan Undeb Cymru Fydd a sefydlwyd yn 1941. Crewyd Y Swyddfa Gymreig yn 1964 a phenodwyd James Griffiths yn Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru. Yn sgil Comisiwn Brenhinol Kilbrandon galwyd refferendwm yn 1979, ond gwrthodwyd senedd etholedig gan fwyafrif llethol pobl Cymru. Ar 18 Medi 1997 cynhaliwyd ail refferendwm gan y llywodraeth. Pleidleisiodd y Cymry dros ddatganoli ac agorwyd y Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd ar 26 Mai 1999.














