Emlyn Williams (1905-87)
Roedd Emlyn Williams yn un o actorion a dramodwyr amlycaf Cymru, ac yn ffigwr amlwg ar lwyfannau Llundain a Broadway. Roedd yn actor poblogaidd ac yn ddramodydd llwyddiannus, a daeth yn enwog am ei berfformiad o ddarlleniadau Charles Dickens. Ysgrifennodd nifer o sgriptiau ffilm, gan gynnwys The Last Days of Dolwyn, 1949, a rhoddodd ei gyfle cyntaf i Richard Burton ar lwyfan ac ar ffilm. Yn 1994 derbyniodd y Llyfrgell ei archif bersonol i’w chasgliadau.














