Papurau newydd Cymraeg
Baner ac Amserau Cymru a sefydlwyd yn 1859, dan olygiaeth Thomas Gee, oedd papur newydd Cymraeg pwysicaf ei gyfnod. Yn 1992 gwelwyd cyhoeddi’r rhifyn olaf o Y Faner, a elwid gynt yn Baner ac Amserau Cymru. Yn yr 20fed ganrif datblygwyd papur newydd unigryw i Gymru, y papur bro. Cychwynnwyd yn 1974 gyda Y Dinesydd yng Nghaerdydd a Papur Pawb yn ardal Tal-y-bont, Aberystwyth.















