Llinell amser - TimelineLlinell amser - TimelineLlinell amser - TimelineLlinell amser - TimelineLlinell amser - TimelineLlinell amser - TimelineLlinell amser - TimelineLlinell amser - TimelineLlinell amser - TimelineLlinell amser - Timeline

Dr Thomas Jones

Yn 1984 derbyniodd y Llyfrgell ei harchif wleidyddol bwysicaf o’r 20fed ganrif yn rhodd. Yn was sifil bu Dr Thomas Jones yn ddirprwy ysgrifennydd i’r Cabinet rhwng 1916 a 1930. Gwasanaethodd bedwar Prif Weinidog, Lloyd George, Bonar Law, Stanley Baldwin a Ramsay Macdonald. Cafodd ran allweddol yn y trafodaethau a arweiniodd at gytundeb ar Iwerddon yn 1921 ac yn nhrafodaethau’r Streic Gyffredinol yn 1926. Roedd yn un o gyd-sylfaenwyr Gwasg Gregynog a Choleg Harlech.

Dyddiadur Thomas Jones - yma mae'n trafod IwerddonLlythyr gyda logo Coleg HarlechLlythyr yn trafod Coleg Harlech a chyfarfod Lloyd GeorgeWelsh Broth