Kate Roberts
Yn 1985 bu farw awdur rhyddiaith mwyaf nodedig y Gymraeg yn yr 20fed ganrif. Cafodd ei geni a’i magu yn Rhosgadfan, Sir Gaernarfon. Dywedwyd iddi droi at ysgrifennu fel dull o therapi wedi iddi golli ei brawd yn y Rhyfel Byd Cyntaf a cholli ei thad wedyn. Bu’n llythyru’n gyson gyda Saunders Lewis ac mae’r llythyrau hyn yn gofnod pwysig o’r cyfnod. Mae Kate Roberts yn fwyaf adnabyddus am ei storïau byrion a’i nofelau.















