Aberfan
Ar 21 Hydref 1966 llithrodd tomen o wastraff glo i lawr dros bentref Aberfan a chladdu’r ysgol leol. Cadarnhawyd bod 144 o bobl wedi marw, 116 ohonynt yn blant. Mewn eiliadau dilëwyd cenhedlaeth gyfan o blant yr ardal. Agorwyd tribiwnlys ar 29 Tachwedd 1966, a rhoddodd ei adroddiad yn Awst 1967 y bai am y drychineb ar y Bwrdd Glo Gwladol.














