Llinell amser - TimelineLlinell amser - TimelineLlinell amser - TimelineLlinell amser - TimelineLlinell amser - TimelineLlinell amser - TimelineLlinell amser - TimelineLlinell amser - TimelineLlinell amser - TimelineLlinell amser - Timeline

Evan Roberts a diwygiad 1904: Holidaur am ddiwygiad

Yn dilyn diwygiad 1904-05 anfonwyd holiadur allan gan Gymdeithas Hanes Eglwysi’r Bedyddwyr yn 1906 yn gofyn am sylwadau ar effaith y Diwygiad ar gymdeithasau lleol. Cafwyd nifer o atebion yn adrodd hanes Diwygiad 1904-05 ar hyd a lled Cymru. Ceir disgrifiadau byw o effaith y diwygiad ar y cyfarfodydd ac ar unigolion. Daw’r atgofion hyn o Eglwys Carmel, Pontrhydfendigaid. Maent yn ailadrodd digwyddiadau cyffrous ‘bedydd Blaenmarchnant’ ym mis Mawrth 1905.


Teitl Holidau'r am ddiwygiad 1904-05
Crëwr Cymdeithas Hanes Eglwysi'r Bedyddwyr
Dyddiad 1906
Cyfeiriad NLW MS 22856D

Llyfrgell Genedlaethol Cymru sydd berchen yr hawl ar y delweddau digidol a rhaid anfon cais at y Llyfrgellydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3BU os am ganiatad i'w hatgynhyrchu mewn unrhyw fodd.