Eisteddfodau: Llythyr am eisteddfodau gan Taliesin Williams
Yn y llythyr hwn at Taliesin Williams, mab Iolo Morgannwg cawn gofnod o’r Eisteddfodau hynny a gynhaliwyd ar Fryn y Briallu, Llundain yn 1792 ac yn Bron Aran Ceri yn 1821. Mae’n gofnod o gyfarfod eisteddfodol ar Fryn y Briallu lle yr adfywiwyd y syniad o gysylltu Gorsedd y Beirdd a’r Eisteddfod ac yn rhestri’r beirdd a oedd yn bresennol. Ymddangosodd Gorsedd y Beirdd yn rhan swyddogol o’r Eisteddfod yn Eisteddfod yr Ivy Bush yng Nghaerfyrddin yn 1819. Mae’n cynnwys hefyd englynion wedi eu cyflwyno i’r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerfyrddin yn 1819 gan ‘Iafan’.
Teitl Llythyr am eisteddfodau at Taliesyn Williams
Crëwr Jonathan (?) Howel
Dyddiad Ionawr 3 1843
Cyfeiriad NLW MS 21273E
Llyfrgell Genedlaethol Cymru sydd berchen yr hawl ar y delweddau digidol a rhaid anfon cais at y Llyfrgellydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3BU os am ganiatad i'w hatgynhyrchu mewn unrhyw fodd.










