Wedi'r rhyfel
Yn sgil y rhyfel a phrinder tai codwyd gwersylloedd pebyll y fyddin yng ngogledd a de Cymru. Dan orchymyn Aneurin Bevan adeiladwyd 50,000 o dai yng Nghymru erbyn 1951.
Cynllun a drawsnewidiodd gofal iechyd oedd cyflwyno’r gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol yn 1948, gan Aneurin Bevan.
Tyfodd yr economi gyda’r galw am lo, haearn a dur wedi’r rhyfel a gwellodd cyflwr amaethyddiaeth gyda chyflwyno system o rantiau i hybu gwelliannau.
Daeth datblygiadau technolegol yn fforddiadwy, moderneiddiwyd byd gwaith â’r cartref. Erbyn diwedd y 50au roedd yna set deledu mewn 5 miliwn o gartrefi Prydain a daeth dylanwadau o America a Lloegr i Gymru gan drawsnewid diwylliant cerddorol Cymru.











