Ystad Bute
Ystad Bute yn ardal Caerdydd oedd un o ystadau mwyaf a chyfoethocaf Cymru. Ail Ardalydd Bute a ddatblygodd Gaerdydd i fod yn brif borthladd de Cymru ac yn un o brif borthladdoedd glo'r byd. Roedd gan yr ystad gysylltiadau yn India’r Gorllewin lle’r oedd tyfu siwgr yn dod ag elw sylweddol. Yno daeth y teulu’n rhan o fasnach y caethweision hyd at ei diddymu yn 1807. Yn 1950 derbyniodd y Llyfrgell archif Ystad Bute i’w chasgliadau.















