Llyfrgell Llydaweg
Y Llyfrgell sy’n dal y casgliad mwyaf o ddeunydd Llydaweg y tu allan i Lydaw. O 1946–7 ymlaen cafwyd llif cyson a chyfoethog o ddeunydd Llydaweg i’r Llyfrgell gan gynnwys casgliadau Roparz Hémon a François Jaffrennou, ‘Taldir’. Wedi’r Ail Ryfel Byd fe’u harestiwyd a’u carcharu ar gyhuddiadau o gydweithio â’r Almaenwyr ac o ysbïo. Bu’r ddau’n byw yn alltud, heb fyth ddychwelyd i Lydaw.














