Evan Roberts a Diwygiad 1904–05
Diwygiad 1904–05 oedd y diwygiad crefyddol olaf a welwyd yng Nghymru. Cychwynnodd yng Ngheinewydd ym mis Chwefror 1904 pan gododd Florrie Evans ar ei thraed a thystio ei bod yn ‘caru’r Arglwydd Iesu Grist a’i holl galon’. Er mai prin flwyddyn y parhaodd y diwygiad roedd ei effaith ar gymdeithas y cyfnod yn anhygoel. Yn 1951 y bu farw Evan Roberts, ffigwr amlycaf y diwygiad crefyddol.














