Beirdd a llenorion amlycaf Cymru
Yn 1950 derbyniodd y Llyfrgell lawysgrif wreiddiol y nofel Profedigaethau Enoc Huws gan Daniel Owen (1836–1895), y teiliwr o’r Wyddgrug. Yn 1953 cyhoeddwyd un o brif nofelau’r iaith Gymraeg, Cysgod y Cryman gan Islwyn Ffowc Elis (1924–2004). Cyhoeddwyd Dail Pren yn 1956 gan Waldo Williams (1904–1971), un o feirdd mwyaf yr iaith Gymraeg. Cofir amdano fel Crynwr, heddychwr a chenedlaetholwr, a’i gerddi’n ymwneud â brawdoliaeth dyn a’i gymdogaeth ym mro’r Preseli.

















