Dylan Thomas (1914–1953)
Dyma'r bardd Eingl-Gymreig enwocaf. Daeth i’r amlwg yn 1934 pan gyhoeddodd ei gyfrol 18 poems . Ei waith enwocaf yw’r ddrama radio Under Milk Wood. Fe’i cwblhawyd yn 1953 ond erbyn ei darlledu gan y BBC ym mis Ionawr 1954 roedd ei hawdur eisoes wedi marw mewn ysbyty yn Efrog Newydd.
















