Eisteddfod
Cynhaliwyd yr Eisteddfod gyntaf yn 1176 dan nawdd yr Arglwydd Rhys yng Nghastell Aberteifi. Yn 1819 yn yr Ivy Bush Inn yng Nghaerfyrddin gwelwyd creu cysylltiad ffurfiol rhwng yr Eisteddfod a Gorsedd y Beirdd Iolo Morganwg. Dyma wreiddiau’r Eisteddfod Genedlaethol fel yr ydym yn gyfarwydd â hi heddiw. Yn 1947 sefydlwyd Eisteddfod Gydwladol Llangollen i geisio uno’r cenhedloedd wedi’r Ail Ryfel Byd.















