Dylan Thomas: Llythyr yn trafod 'Portrait of the artist as a young dog'
Llythyr gan Dylan Thomas at Desmond Hawkins yn sôn am ei waith wrth iddo ysgrifennu Portrait of the Artist as a Young Dog. Yn ddarlledwr, nofelydd a beirniad llenyddol, roedd Desmond Hawkins, fel Dylan Thomas, yn adolygu gweithiau llenyddol. Yn y cyfnod hwn roedd i ysgrifennu adolygiad o The Map of Love a gyhoeddwyd gan Dylan Thomas yn 1939. Yn gasgliad o 16 o gerddi a saith stori fer, ysgrifennwyd y cyfan yn ystod y cyfnod pan briododd Dylan Thomas a Caitlin a phan yr oedd Caitlin yn disgwyl eu plentyn cyntaf. Derbyniodd groeso cymysg, a hynny mewn cyfnod pan yr oedd y rhyfel ar feddyliau pawb.
Teitl Llythyr yn trafod 'Portrait of the artist as a young dog'
Crëwr Dylan Thomas
Dyddiad 14 Awst 1939
Cyfeiriad NLW MS 23529C
© David Higham Associates Ltd











