Ystad Bute: Llythyr ynglyn a thaliad
Ym mhapurau ystâd Bute ceir llythyr gan yr awdur ac anturiwr enwog o’r 16eg ganrif, Syr Walter Raleigh. Ei weithred enwocaf oedd gosod ei glogyn dros bwll o ddŵr i atal Brenhines Elisabeth I rhag baeddu ei hesgidiau. Anfonodd y llythyr hwn tua 1617 at William St John o Forgannwg a oedd yn gapten llong. Credir bod y llythyr hwn wedi cael ei ysgrifennu pan oedd Raleigh yn cychwyn ar ei daith olaf i Ghana, Affrica, a bod William St John wedi bod yn rhan o ariannu’r fenter.

Teitl Llythyr ynglyn a thaliad
Crëwr Walter Raleigh
Dyddiad 1617?
Cyfeiriad Bute Estate L3/5
Llyfrgell Genedlaethol Cymru sydd berchen yr hawl ar y delweddau digidol a rhaid anfon cais at y Llyfrgellydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3BU os am ganiatad i'w hatgynhyrchu mewn unrhyw fodd.










