Baledi
Roedd y faled yn ddull cynnar o adloniant a newyddion. Fe’i canwyd mewn marchnadoedd a ffeiriau gan deithwyr crwydrol megis Richard Williams, ‘Tywysog y Baledwyr’. Dim ond pan gychwynnodd y papur newydd ymddangos yn ystod ail hanner y 19eg ganrif dechreuodd y faled golli ei lle. Yn 1945 derbyniodd y Llyfrgell ychwanegiadau pwysig i’w chasgliad o tua 7,000 o faledi Cymreig.














