Gwisgoedd Llanofer
Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer oedd un o noddwyr pwysicaf y traddodiad gwerin yng Nghymru yn y 19eg ganrif. Fe’i cofir yn benodol am greu’r ddelwedd o’r wisg Gymreig, yr het uchel, y ffedog a’r betgwn. Yn y gyfres Cambrian Costumes a dderbyniwyd i gasgliadau’r Llyfrgell yn 1942, ceir 17 o ddyfrlliwiau a gomisiynwyd gan Augusta Hall. Maent yn darlunio gwisg draddodiadol merched siroedd Cymru.













