Llinell amser - TimelineLlinell amser - TimelineLlinell amser - TimelineLlinell amser - TimelineLlinell amser - TimelineLlinell amser - TimelineLlinell amser - TimelineLlinell amser - TimelineLlinell amser - TimelineLlinell amser - Timeline

Rhwng y rhyfeloedd

Yn 1927 ennillodd Clwb Pêl Droed Caerdydd Gwpan yr FA. Nid oes tîm arall o Gymru wedi llwyddo i efelychu eu camp.

Gwaethygu’n arw wnaeth sefyllfa’r gweithwyr wrth i ddiweithdra dyfu i lefelau enbydus.

Llenwyd y tudalennau blaen gan ddigwyddiadau rhyngwladol pan ddaeth Hitler i rym yn 1933. Pan gychwynodd y rhyfel cartref yn Sbaen yn 1936, denwyd 174 o ddynion o dde Cymru i ymladd byddin Franco.

Yn 1936 daeth tri o ffigurau pwysicaf Plaid Cymru i’r amlwg wrth iddynt losgi ysgol fomio Penyberth ym Mhenllyn. Rhoes gychwyn ar ddegawdau o weithredu anghyfreithlon, di-drais dros achos yr iaith yng Nghymru.