Dewiniaeth
Roedd ofergoeliaeth a chred mewn dewiniaeth yn gyffredin iawn hyd at ganol y 19eg ganrif. Yn 1936 derbyniodd y Llyfrgell lawysgrifau a phapurau’r dewin poblogaidd John Harries (1787-1839), Cwrtycadno. Roedd John Harries a’i fab Henry Harries yn ddoctoriaid ac yn seryddwyr. Er i’r ddau dderbyn hyfforddiant meddygol roeddynt yn adnabyddus yn lleol am ddefnyddio swynion, triniaethau perlysiau ag electrotherapi i wella’u cleifion.














