‘Mr Gareth Jones … a man who knew too much’ (1905–1935)
Dyma un o newyddiadurwyr amlycaf dechrau’r 20fed ganrif. Bu’n ysgrifennydd preifat i David Lloyd George cyn ymuno â staff y Western Mail yn 1933. Cafodd ei wahodd yn gwmni i Hitler, cyfarfu â Krupskaya, gweddw Lenin, adroddodd ar y newyn mawr yn yr Iwcrain, a theithiodd i ardal anghysbell a pheryglus Mongolia fewnol. Yno yn 1935 yr honnir iddo gael ei lofruddio gan filwyr Siapaneaidd.













