David Lloyd George
David Lloyd George yw’r arweinydd rhyngwladol mwyaf a fagodd Cymru erioed. Fel Canghellor y Trysorlys cyflwynodd nifer o fesurau pwysig fel cynllun pensiynau, 1908 ac yswiriant gwladol, 1911. Daeth yn Brif Weinidog yn 1916. Ychydig o arweinwyr Prydain sydd wedi cael dylanwad mor barhaol â Lloyd George. Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn gartref i saith archif sy’n ymwneud â’i fywyd.

















