Y Pyllau Glo
Y diwydiant glofaol oedd y diwydiant pwysicaf a’r peryglaf yng Nghymru. Ym mhwll glo’r Universal yn Senghennydd ddydd Mawrth 14 Hydref 1913, rhwygodd dau ffrwydrad drwy'r lofa, a lladdwyd 439 o lowyr. 30 mlynedd yn ddiweddarach, ar 22 Medi 1934 bu ffrwydrad ym mhwll glo Gresffordd ger Wrecsam: lladdwyd 265 o lowyr a bu’n rhaid selio’r pwll.















